Croeso

 

Sefydlwyd Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru er mwyn hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig yn ogystal a chyfansoddwyr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru.
Bydd y Gymdeithas hefyd yn annog lefel uchel o ymarfer perfformio gan feithrin ymwybyddiaeth a fydd yn arsylwi ar faterion proffesiynol yng Nghymru; i’r perwyl hwn bydd yn annog perfformwyr a cherddoregwyr i ymddiddori yng ngwaith y Gymdeithas.