Galwad agored i gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth
Thema Medal y Cyfansoddwr eleni yw Cymru Fydd.
Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru.
I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: Wythnos yng Nghymru Fydd.
Bydd y tri chyfansoddwr detholedig yn gweithio gyda Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo) mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ble fydd perfformiad byw o’u gweithiau ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Pafiliwn ar ddydd Sadwrn 9 Awst 2025. Bydd un o’r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.
Mae’r llwybr yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru, a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, yn gweithio gyda mentor-cyfansoddwr, Pwyll ap Siôn dros chwe mis.
Dyddiad cau am geisiadau yw 10:00 ar ddydd Mawrth 7 Ionawr.
Open call for composers and music-creators
The Medal y Cyfansoddwr theme this year is Cymru Fydd.
Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd is a pathway offering three composers a paid opportunity to write for a chamber ensemble from Sinfonia Cymru.
In recognition of the centenary of the birth of Islwyn Ffowc Elis, one of Wrexham’s finest writers, we are inviting music-creators to respond to his epic novel Wythnos yng Nghymru Fydd.
The three selected composers will work with Simmy Singh (violin), David Shaw (violin/viola) and Garwyn Linnell (cello) in workshops over six months, leading up to the National Eisteddfod in Wrexham, where their resulting works will be performed at the final day of the National Eisteddfod in the Pavilion on Saturday 9 August 2025. One of the three composers will be awarded the Medal y Cyfansoddwr and a £750 prize.
The pathway is delivered by Tŷ Cerdd in partnership with the National Eisteddfod, Sinfonia Cymru and Welsh Music Guild, working with composer mentor Pwyll ap Siôn across six months.
Deadline for applications is 10:00 on Tuesday 7 January.