Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyfansoddi: Cymru 2026: Ceisiadau ar agor

ENGLISH

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, cael ei pherfformio a’i recordio gan BBC NOW yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o’r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Arweinydd Jac van Steen, a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.

Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.

Dyddiadau

Diwrnodau Gweithdy: Dydd Mercher 11 & 12 Chwefror 2026

Ymarferion a Chyngerdd: Dydd Gwener 13 Chwefror 2026

Sut i wneud cais?

Gwahoddir cyfansoddwyr i gyflwyno sgôr i’w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru erbyn dydd Sul 28ain Medi 2025 erbyn 23:00.

Bydd 6 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn Dydd Llun 20fed Hydref 2025.

Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
  • Dros 18

Gwnewch Gais Nawr!

Gellir dod o hyd i ganllawiau, meini prawf a manylion cyflwyno: YMA

(Gwreiddiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/5PcNSK11Hk9wL0SSFrShkDZ/cyfansoddi-cymru-2026)