Medal y Cyfansoddwr logo

Medal y Cyfansoddwr 2026 ‘Lleisiau Waldo’

ENGLISH HERE

Mae Medal y Cyfansoddwr yn gydweithrediad rhwng Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Gerddoriaeth Cymru. Mae’n lwybr datblygu artist lle bydd tri chyfansoddwr dethol yn creu gwaith newydd i’w berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Penllanw’r daith fydd dyfarnu Medal y Cyfansoddwr i’r cyfansoddwr buddugol yn ystod seremoni arbennig ar lwyfan y pafiliwn yn yr Eisteddfod ym mis Awst.

THEMA

Thema ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yw barddoniaeth Waldo Williams, un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20fed ganrif – ac yn un o feibion amlycaf ardal Y Garreg Las, cartref Eisteddfod 2026. 

Mae Medal y Cyfansoddwr – Lleisiau Waldo yn lwybr sy’n cynnig cyfle cyflogedig i dri chyfansoddwr gyfansoddi dau gyfansoddiad fer: un ar gyfer côr lleisiau SATB ac un ar gyfer côr plant/ieuenctid (SA) wedi’u gosod ar gerddi Waldo Williams. 

​Bydd y tri chyfansoddwr dethol yn gweithio gyda Nathan James Dearden, cyfansoddwr a thiwtor; Caleb Mock, cyfarwyddwr corawl, a chôr SATB a fydd yn cael ei ffurfio’n arbennig ar gyfer y prosiect hwn. Croesewir ceisiadau gan bob math o grewyr cerddoriaeth o bob cwr o Gymru ac ar draws pob genre. 

Y BROSES 

Cynhelir gweithdai a sesiynau mentora gyda’r tri cyfansoddwr dethol gydol y misoedd yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol. Daw penllanw’r cynllun gyda pherfformiadau byw o waith y tri chyfansoddwr ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 8 Awst 2026. Yna, ar sail y cyfansoddiadau, dyfernir Medal y Cyfansoddwr yn ogystal â gwobr o £750 i’r enillydd (o blith y tri). 

​Bydd proses wahanol ar gyfer y ddwy gerdd:  

  • Ar gyfer y gwaith SATB, bydd y tri chyfansoddwr yn cyfranogi mewn gweithdai gyda’r mentor-gyfansoddwr, Nathan James Dearden, y cyfarwyddwr corawl Caleb Mock, a chôr SATB a ffurfir yn arbennig ar gyfer y llwybr hwn. Y dasg yw gosod cerdd eiconig Waldo Williams, Plentyn y Ddaear i leisiau SATB
  • Ar gyfer y gwaith i gôr plant/ieuenctid (SA), bydd y cyfansoddwyr yn gweithio’n annibynnol, gyda rhywfaint o fentora/amser cyswllt ar-lein gan Nathan James Dearden. Y gerdd osod ar gyfer côr plant fydd Y Ci Coch. ​

​Ar fore’r gystadleuaeth, bydd cyfle i’r tri chyfansoddwr weithio ar y ddau gyfansoddiad gyda’r ddau gôr yn Y Stiwdio, ar Faes yr Eisteddfod ar 8 Awst.  

​Darperir copi o’r ddwy gerdd (yn ddwyieithog) ar waelod y dudalen.

​Bydd pob artist yn derbyn £600 am eu cyfranogiad mewn cyfuniad o weithdai wyneb yn wyneb ac amser cyswllt ar-lein. Bydd costau teithio (o fewn Cymru) yn cael eu talu ar gyfer unrhyw artist sydd angen teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Sir Benfro). 

​​Mae’r panel beirniadu ar gyfer Medal y Cyfansoddwr eleni yn cynnwys Tim Rhys-Evans, prif feirniad (arweinydd), Robert Fokkens (cyfansoddwr), a Branwen Haf (artist).

​Bwriedir cyhoeddi gwaith y tri chyfansoddwr drwy Tŷ Cerdd yn dilyn yr Eisteddfod.

​Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 ddydd Mercher 7 Ionawr 

https://www.tycerdd.org/medal-y-cyfansoddwr-2026