Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyfansoddi: Cymru 2025: Ceisiadau ar agor

ENGLISH

Cyflwyniad i Gyfansoddi: Cymru 2025
Eisiau gwybod mwy am Cyfansoddi: Cymru? Cofrestrwch isod i ymuno â ni am gyflwyniad ar-lein a sesiwn holi ac ateb am 17:00 ddydd Mercher 26 Mehefin 2024. Cofrestrwch drwy’r ddolen hon: https://forms.office.com/e/C5LdU6rWKL

Cyfansoddi: Cymru 2025

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn frwd dros gefnogi ac arddangos gwaith a thalent Cyfansoddwyr ledled Cymru. Mae Cyfansoddi: Cymru yn cynnig cyfle i nifer o gyfansoddwyr gael gweithdy ar eu cerddoriaeth, cael ei pherfformio a’i recordio gan BBC NOW yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.

Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o’r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Arweinydd Jac Van Steen, a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.

Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.

Dyddiadau
Diwrnodau Gweithdy: 24 & 25 Mawrth 2025
Ymarferion a Chyngerdd: 26 Mawrth 2025

Sut mae gwneud cais?
Gwahoddir cyfansoddwyr i gyflwyno sgôr i’w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru erbyn dydd Sul 20 Hydref 2025 erbyn 2300

Bydd 6 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn 15 Tachwedd 2024.

Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
• Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
• Dros 18

Gwnewch Gais Nawr!
Gellir dod o hyd i ganllawiau, meini prawf a manylion cyflwyno: YMA

Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’r ddolen, mae croeso i chi gysylltu â now@bbc.co.uk.

Tudalen gwreiddiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/profiles/3CZq6tlXhYQhXDnyBn4DQG8/cyfansoddi-cymru-2025