Medal y Cyfansoddwr 2027 ‘Arbrofi â’r traddodiad’

Mae Medal y Cyfansoddwr yn gydweithrediad rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru. Ar gyfer Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027, mae’r pwyslais ar y delyn deires a gwahoddir cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i arbrofi â’r offeryn traddodiadol enwog hwn. 

Dyma gyfle i ddathlu’r gorau ym maes cyfansoddi a chreu cerddoriaeth yng Nghymru drwy wobr bwysig Medal y Cyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Anogir cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i wneud cais. Bydd tri artist yn cael eu dewis i gael comisiwn, a bydd cyfle i’r tri weithio gyda’r delynores deires flaenllaw Eleri Darkins mewn gweithdai yn ystod hanner cyntaf 2027, a’r cyfansoddwr John Hardy hefyd yn hwyluso’r sesiynau hyn yn archwilio’r delyn deires.

Cynhelir y gweithdai yn Stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd pob un o’r tri artist a ddewisir yn derbyn ffi gomisiwn o £600, ynghyd â chael eu treuliau teithio (o fewn Cymru) wedi’u talu ar gyfer mynychu’r gweithdai a’r Eisteddfod ei hun.

Caiff y tri darn o waith a gomisiynir eu perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a dyfernir Medal y Cyfansoddwr i un o’r tri chyfansoddwr yn seremoni gloi’r Eisteddfod ar 7 Awst 2027. 

Bydd enillydd Medal y Cyfansoddwr yn derbyn gwobr o £750.
 

Dyddiad cau: 15/11/2026

https://www.tycerdd.org/medal-y-cyfansoddwr-2027-cym