Testun o wefan Cerddorfa Cenedlaethol y BBC:
Yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, rydyn ni’n falch o hyrwyddo’r bobl sy’n siapio dyfodol cerddorol Cymru, a bydden ni wrth ein boddau petaech chi’n rhan o hynny.
Mae Cyfansoddi: Cymru yn rhaglen datblygu artistiaid gyffrous sydd wedi’i chynllunio ar gyfer cyfansoddwyr sy’n barod i gymryd y cam nesaf. Os cewch eich dewis, byddwch yn creu darn newydd o gerddoriaeth ac yn clywed cerddorfa broffesiynol lawn yn dod â’r darn yn fyw mewn gweithdy a pherfformiad yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd.
Ar hyd y daith, byddwch yn cael eich cefnogi gan artistiaid o’r radd flaenaf, gan gynnwys yr arweinydd Jac Van Steen a’r mentor cyfansoddwyr Paul Mealor. Byddwch yn cael gwybodaeth, arweiniad ac adborth gonest ac ymarferol gan y cerddorion sy’n perfformio eich gwaith – dyma gyfle amhrisiadwy i dyfu eich llais a mireinio eich crefft.
Mae hon yn fwy na rhaglen: mae’n gyfle i gysylltu, arbrofi a chael eich clywed. Rydyn ni yma i gefnogi a dathlu cyfansoddwyr o bob cwr o Gymru a’r rheini sydd wedi’u lleoli yma, gan helpu i ddod â cherddoriaeth newydd i gynulleidfaoedd newydd.
Cyfansoddi: Cymru, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Nimbus Lyrita Arts a Thŷ Cerdd, yw eich gwahoddiad i gamu ymlaen a rhannu eich cerddoriaeth.
Sylwer, ynghyd â rhai newidiadau allweddol eraill, mae’r amserlen ymgeisio a’r meini prawf ymgeisio’n wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae manylion llawn ar gael yn y Telerau ac Amodau. Isod ceir crynodeb yn unig.
Dyddiadau Pwysig
Bydd angen i gyfansoddwyr sydd ar y rhestr fer fod ar gael ar gyfer:
- Nifer o sesiynau mentora ar-lein drwy gydol y flwyddyn (i’w trefnu’n uniongyrchol)
- Dau ddiwrnod o fentora wyneb yn wyneb (wyneb yn wyneb, yng Nghaerdydd): Dydd Sul 27 Medi, dydd Iau 26 Tachwedd
- Diwrnodau Gweithdy a Chyngerdd (wyneb yn wyneb, yng Nghaerdydd): Dydd Mawrth 2 Mawrth, Dydd Mercher 3 Mawrth 2027.
Meini Prawf Ymgeisio
Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
- Dros 18
I wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno sgôr ac, os yw’n bosibl, recordiad neu sylweddoliad MIDI o hyd at 2 ddarn.*
*Cyflwynwch ddarnau sy’n rhoi’r adlewyrchiad gorau o’ch potensial/llais cyfansoddi. Rhaid i un o’r darnau ddangos eich gallu i ysgrifennu ar gyfer ensemble o offerynnau clasurol y gorllewin. (Gall hyn amrywio o fod mor fach â phedwarawd llinynnol i fod yn gerddorfa lawn).
D.S. Nid oes angen i chi gyflwyno gwaith a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn. Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwch chi’n cael eich cefnogi i greu gwaith ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn unrhyw ffordd rydych chi’n dymuno, boed hynny’n gyfansoddi rhywbeth cwbl newydd, neu addasu/esblygu gwaith sydd eisoes yn bodoli. Ni fydd hyn yn cael ei ystyried yn y broses o lunio rhestr fer.
Sut i Wneud Cais
Ffurflen Gais
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais
09:00AM 1 Mehefin 2026
Y Broses o lunio Rhestr Fer
Bydd y panel sy’n llunio’r rhestr fer yn asesu pob cais mewn perthynas â’r meini prawf canlynol:
- Syniad Cyfansoddiadol;
- Gwreiddioldeb;
- Creadigrwydd; a’r
- Gallu i ysgrifennu ar gyfer offerynnau clasurol y gorllewin
Bydd Rownd 1 y broses o lunio rhestr fer yn ddienw, ond ni fydd ymgeiswyr yn ddienw yng nghylch 2.
Pwy sydd ar y panel?
Rownd 1: Paul Mealor, Shirley J. Thompson, George Lee
Rownd 2: Paul Mealor, Shirley J. Thompson, George Lee, Deborah Keyser, Jac van Steen, Cerddor o BBC NOW
Pryd fydda i’n cael gwybod?
Byddwn yn cysylltu â’r cyfansoddwyr sydd ar y rhestr fer erbyn dydd Gwener 3 Gorffennaf 2026
Gwybodaeth Ychwanegol
Mentoriaid
Paul Mealor
Shirley J. Thompson
Naomi Roberts (Llyfrgellydd BBC NOW)
Jac van Steen (Arweinydd)
Cerddorion BBC NOW
Treuliau
Lle bo angen, bydd cymhorthdal ar gyfer yr holl deithio a llety ar gyfer digwyddiadau wyneb yn wyneb. Os bydd unrhyw gyfansoddwr/gyfansoddwyr ar y rhestr fer yn wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cymryd rhan, gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd ychwanegol o gefnogi unigolion i gymryd rhan lawn yn y broses hon.
Gofynion Mynediad
Dywedwch wrthym a oes angen unrhyw gymorth arnoch i’ch galluogi i gymryd rhan yn y cyfle hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at y Cynhyrchydd Addysg: rhonwen.jones@bbc.co.uk
Darllenwch y telerau ac amodau llawn cyn i chi wneud cais.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill, mae croeso i chi gysylltu â: rhonwen.jones@bbc.co.uk