Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn gwahodd ceisiadau i Cyfansoddi: Cymru ar gyfer 2020. Dyma brosiect sydd wedi cael canmoliaeth fawr a bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr a mis Mawrth 2020 yn Neuadd Hoddinott y BBC dan law’r arweinydd B Tommy Andersson. Ers 18 mlynedd, mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i gyfansoddwyr talentog ac uchelgeisiol o Gymru gael clywed eu cerddoriaeth yn cael ei hymarfer a’i pherfformio gerbron cynulleidfa.
Mae Cyfansoddi: Cymru wedi sefydlu ei hun fel un o’r digwyddiadau cerddoriaeth gyfoes pwysicaf ar lwyfan cerddorfaol Cymru. Mae’n cyflwyno gweithiau gan gyfansoddwyr sy’n haeddu cael mwy o amlygrwydd. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle iddynt glywed a gwerthuso’u cerddoriaeth a fydd yn cael ei chwarae gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r prosiect yn cael ei drefnu ar y cyd â Cyfansoddwyr Cymru, Tŷ Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.
Mae’r rhai sy’n gymwys i gyflwyno sgorau yn cynnwys unigolion a gafodd eu geni yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ar lefel israddedig neu gymhwyster cyfwerth, neu gyfansoddwyr sydd wedi’u geni yng Nghymru ac sy’n astudio cyfansoddi ar lefel ôl-radd yng Nghymru. Bydd BBC NOW hefyd yn ystyried cyfansoddwyr a gafodd eu geni yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru sydd â record lwyddiannus o gyfansoddi.
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno gwaith ydy 10.00am ddydd Mercher 13eg Tachwedd 2019, gyda’r sgorau a fydd wedi cael eu dewis yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener 6ed Rhagfyr 2019.
Yn ogystal â chyfansoddiadau a gaiff eu chwarae yn Neuadd Hoddinott y BBC fel rhan o Cyfansoddi: Cymru 2020, bydd y partneriaid sy’n cydweithredu – Tŷ Cerdd a Gŵyl Bro Morgannwg – hefyd yn cynnig cyfleoedd ychwanegol ar gyfer detholiad o gyfansoddwyr.
Bydd Tŷ Cerdd yn cynnig cyfle i dri chyfansoddwr ysgrifennu darn byr o gerddoriaeth ar gyfer ensemble siambr. Bydd y cyfansoddiadau hyn yn cael eu perfformio yng nghyfres digwyddiadau Cerddoriaeth y Nos yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Yn rheolaidd, bydd Gŵyl Bro Morgannwg yn dewis cyfansoddwyr sy’n rhan o Cyfansoddi Cymru i weithio’n agos â nhw. Gallai gwaith cyfansoddwyr a gaiff eu dewis gael ei gynnwys fel rhan o’r Ŵyl ym mis Mai, a gallai gael ei gomisiynu ar lefel gerddorfaol a/neu siambr. Bydd Gŵyl Bro Morgannwg 2020 yn cynnwys comisiwn cerddorfaol ac unawd gan y cyfansoddwr David Roche, a gymerodd ran yn Cyfansoddi Cymru 2019.
Gwahoddir sgorau gyda’r briff canlynol fel arweiniad: darn perffaith i agor un o gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, neu fel encore, er enghraifft yn y Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi neu ar daith ryngwladol.
Bydd y sgorau a ddewisir yn ymddangos yn y prosiect yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd. Bydd y gweithdy cychwynnol yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 28 Ionawr 2020; yn cael ei ddilyn gan ddau weithdy ychwanegol ddydd Mawrth, 3 Mawrth a dydd Mercher, 4 Mawrth 2020, ac yn gorffen gyda chyngerdd rhad ac am ddim i’r cyhoedd.
Prif ddyddiadau:
· Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno’r sgorau cychwynnol: Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2019, 10.00am
· Cyhoeddi’r sgorau sydd wedi cael eu dewis: Dydd Gwener 6ed Rhagfyr 2019
· Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno rhannau cerddorfaol a sgorau terfynol llawn yr holl waith sydd wedi cael ei ddewis: Dydd Llun, 6 Ionawr 2020, 5.00pm
· Diwrnod y gweithdy cychwynnol: Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020 am 2.00pm -5.00pm a 6.00pm-9.00pm
· Ymarferion agored: Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020 am 2.00pm-5.00pm a 6.00pm-9.00pm, a dydd Mercher 4 Mawrth 2020 am 2.30-5.30pm
· Cyngerdd Penllanw rhad ac am ddim: Dydd Mercher, 4 Mawrth 2020 am 7.00pm
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen ymgeisio a chanllawiau, ewch i https://www.bbc.co.uk/bbcnow or neu ffonio 0800 052 1812 neu e-bostio now@bbc.co.uk.