Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Cyfansoddi: Cymru 2021: Ceisiadau ar agor

Mae’r cynllun yma wedi cael ei redeg gan BBC NOW mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg, Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru a Chyfansoddwyr Cymru ers 2010, gyda’r bwriad o roi llwyfan i waith a thalent cyfansoddwyr ar draws Cymru.

Efallai y bydd Cyfansoddi Cymru yn edrych ychydig yn wahanol eleni ond mae BBC NOW a’u partneriaid yn edrych ymlaen yn eiddgar. Fe ddewisir chwech i wyth ymgeisydd i gymeryd rhan yn y gweithdai

Croesawir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy’n cwrdd â’r gofynion isod:

  • Wedi eu geni neu yn byw yng Nghymru
  • Dros 18
  • Cyflwyno gwaith heb ei gyhoeddi

 

Beth yw’r broses eleni?

Bydd yr ymgeiswyr a ddewisir yn cael gweithdy ‘byw’ cychwynnol gyda’r cerddorion. Mae’n debygol iawn y bydd hyn yn digwydd dros Zoom yn sgîl yr amodau presennol.

Bydd yr ymgeiswyr yn profi nifer o sesiynau datblygiad proffesiynol yn arwain at gyngerdd derfynol yn 2021, gan gynnwys sesiynau gyda prif chwaraewyr BBC NOW, aelodau cerddorfaol, Cyfansoddwyr mewn Cydweithrediad BBC NOW ac aelodau’r panel. Mae hi’n debygol iawn y cynhelir y sesiynau yma dros Zoom.

 

Maint ensemble

Derbynnir cynigion sydd hyd at 8 munud o hyd (ond ddim yn fwy na hyn) ar gyfer Cyfansoddi: Cymru 2020. Noder bod modd cyflwyno gweithiau byrrach hefyd.

Eleni, gall ymgeiswyr ddewis cyflwyno cyfansoddiad dim mwy nag 8 munud mewn hyd ar gyfer:

1.[1/pic].1[1/ca].1[1/bcl].1[1/cbn] | 2.2.2[ten.btbn].1 / T / 2P / Hp / Str[6.6.4.4.3].

DS:1 chwaraewr chwythbrennau ar gyfer pob offeryn on yn gallu dyblu (gall y chwaraewr ffliwt chwarae’r piccolo ayyb)

DS: Dim ond mân newidiadau a ganiateir oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Offerynnau Taro

Uchafswm o ddau chwaraewr gyda’r offerynnau canlynol (rhannu i osgoi defnyddio’r un offerynnau):

Chwaraewr 1

Drwm Bass
Drwm Tenor
Drwm Tannau
4 Blocyn Tsieneaidd
Glockenspiel
1 Symbal Crog (unrhyw fath, gallwn newid rhain rhwng cyfansoddwyr, a dyblu)
Mae offerynnau llai a ddefnyddir yn iawn (Tamborîn, ffyn, triongl, Guiro, maracas ayb) Mae gennym fwy nag un o’r offerynnau yma fel y gall Chwaraewr 1 a 2 eu defnyddio.

Chwaraewr 2

2 Tom
2 Bongo
1 Symbal Crog (unrhyw fath, gallwn newid rhain rhwng cyfansoddwyr, a dyblu)
2 gong traw isel, tras canolig – traw amhendant, cymeriad yr offeryn yn unig.
Seiloffon neu Fibraffon (fel y mynnwch ar gyfer cymysgu)
Tam Tam
Mae offerynnau llai a ddefnyddir yn iawn (Tamborîn, ffyn, triongl, Guiro, maracas ayb)

 

Sut i ymgeisio

Anfonwch eich Ffurflen Gais Ddigidol, Sgôr PDF (dim copïau caled) a recordiad MP3 o’ch gwaith trwy Wetransfer, Dropbox neu e-bost at:  Eugene.Monteith@bbc.co.uk (gyda chopi i osian.rowlands@bbc.co.uk)

Defnyddiwch y llinell pwnc: Cyfansoddi: Cymru 2021, Eich Enw, Teitl Cyfansoddi

 

Dyddiadau Pwysig

Tachwedd 30ain 2020: Ceisiadau’n Cau
Rhagfyr 7fed/8fed 2020: Creu rhestr fer a dewis ymgeiswyr
Rhagfyr 15fed 2020: Hysbysir ymgeiswyr

Rhagfyr 2020: Cyfarfod Anffurfiol Digidol ar gyfer yr ymgeisiwr sydd ar y rhestr fer. Dyddiad & manylion i’w cadarnhau yn fuan

Ionawr

Ionawr 4ydd 2021: Ail-gyflwyno sgôr llawn terfynnol a rhannau cerddorfaol gan yr ymgeisiwyr sydd wedi eu dewis
Ionawr 25ain 2021: Sesiwn gweithdy cyntaf gyda’r cerddorion
Ionawr 25ain/26ain 2021: Gweithdy gyda Mentoriaid/Cynrychiolwyr Cerddorion BBC NOW

Mawrth

Dechrau Mawrth: Sesiynau Datblygiad Proffesiynol
Mawrth 3ydd: Ail sesiwn gweithdy gyda’r cerddorion
Mawrth 4ydd: Cyngerdd terfynol a rhannu cyfansoddiadau

Fe dderbynir sgoriau gan gyfansoddwyr sydd wedi cymeryd rhan yn Cyfansoddi: Cymru yn y gorffennol, ond fe ystyrir hyn yn y broses ddethol er mwyn rhoi llwyfan I ddetholiad mor eang â phosibl o gyfansoddwyr.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen ymgeisio a chanllawiau, ewch i https://www.bbc.co.uk/bbcnow or neu ffonio 0800 052 1812 neu e-bostio now@bbc.co.uk.