Tlws y Cyfansoddwr – Eisteddfod RCT 2024 (Cymraeg)

Delweddau Rhondda Cynon Taf
Tlws y Cerddor ar ei newydd wedd ar gyfer Eisteddfod RCT 2024

Galwad agored i gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth


Mae Tlws y Cyfansoddwr yn cynnig cyfle cyflogedig i gefnogi taith gyrfaol cyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr – gan ddefnyddio delweddau o Rhondda, Cynon Taf fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfansoddiadau newydd.

Bydd y tri gwaith gorffennedig yn cael ei berfformio yn y Pafiliwn mewn seremoni arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2024 – gyda delweddau o ddewis y cyfansoddwr yn cael eu taflunio ar sgrin. Cyhoeddir enw’r cyfansoddwr buddugol ar ddiwedd y seremoni a chyflwynir ‘Tlws y Cyfansoddwr’ a gwobr ariannol o £750.

Mae hon yn gystaldeuaeth ar y cyd rhwng yr Eisteddfod GenedlaetholTŷ Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru mewn cydweithrediad a’r cyfansoddwr-mentor, John Rea a phedwar cerddor o Sinfonia Cymru.

Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un yn ogystal â gwahoddiad i weithdai wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a chyfranir costau teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a pherfformiad (Pontypridd).

Bydd yr artistiaid yn derbyn y cyfle i’w gwaith gorffenedig gael ei gyhoeddi gan Tŷ Cerdd.

Mae offeryniaeth yr ensemble fel a ganlyn:

ffidil, clarinet, soddgrwth a phiano

Rhaid i bob ymgeisydd fod ar gael ar gyfer y gweithdai/perfformiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 2 Chwefror 2024 – gweithdy cychwynnol (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
  • Dydd Gwener 12 Ebrill – gweithdy #2 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
  • Dydd Gwener 7 Mehefin – gweithdy #3 (Stiwdio Tŷ Cerdd, Caerdydd)
  • gweithdy/ymarfer/perfformiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod (dyddiad i’w gadarnhau – rhwng dydd Llun 5 a dydd Sadwrn 10 Awst ym Mhontypridd)

Darganfod mwy a sut i wneud cais yma

Dyddiad cau: 08/12/2023