Dyma’r manylion ar gyfer Tlws y Cerddor 2023. Bydd y tudalen yma yn cael ei ddiweddaru gyda ddolen i’r porth i ymgeisio pan fydd yr Eisteddfod yn ei agor.
Cystadleuaeth 74.
TLWS Y CERDDOR
Darn wedi’i ysbrydoli gan alaw / alawon gwerin Cymreig, a gymer hyd at 8 munud i’w berfformio gan offeryn unawdol a chyfeiliant gan 1 – 4 offeryn. Gwobr: Tlws y Cerddor (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru) a £750 (Rhodd er cof am Tecwyn Ellis gan Valerie Ellis, Bangor a’r teulu)
Beirniaid: Pwyll ap Sion, Guto Pryderi Puw
AMOD ARBENNIG
Rhaid i bob ymgeisydd uwchlwytho’u Gwaith ar ffurf MP3 a / neu PDF wrth gofrestru.
Ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru, am ffurflenni cais, manylion cyhoeddwyr, taliadau cystadlaethau, gwybodaeth hawlfraint a llawer mwy. Defnyddiwch porth cystadlu i gymryd rhan ym mhob cystadleuaeth ar wahan i Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith. Bydd y porth yn agor yng ngaeaf 2022.
E-bost: cystadlu@eisteddfod.cymru
DYDDIADAU CAU
1 Ebrill 2023
Pob lwc!